SL(5)141 - Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn cynyddu uchafswm ac isafswm y taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 ("y Ddeddf") i'r rheini sy'n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cynyddu swm y taliad colli cartref sy'n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Y weithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.  Y cyntaf yw y bydd y trothwyon cynyddol a'r gyfradd unffurf yn is na'r trothwyon cyfatebol a'r gyfradd unffurf sy'n gymwys yn Lloegr (Rheol Sefydlog 21.3(i)).  Yr ail bwynt, fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, yw na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol ac na wnaeth Llywodraeth Cymru Asesiad Effaith Rheoleiddiol oherwydd bod y cynnydd yn cael ei bennu drwy fformiwla ragnodedig (Rheol Sefydlog 21.3(ii)). 

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw oblygiadau sy'n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

26 Hydref 2017